Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Placard
Placard undeb Unite 'MARIA MILLER FACTORY KILLER' a ddefnyddiwyd yn rhan o'r ymgyrch yn erbyn cau ffatri dodrefn Remploy, Baglan, Port Talbot yn ystod 2013. Remploy oedd cyflogwr mwyaf y DU ar gyfer pobl gydag anableddau ar un adeg gyda saith ffatri yng Nghymru. Agorodd y ffatri cyntaf ym Mhen-y-bont ar Ogwr ym 1946. Gwnaed y penderfyniad i gau ffatrïoedd Remploy yn 2012 gan Maria Miller, y Gweinidog ar gyfer Pobl Anabl o fewn y Llywodraeth Geidwadol. Cyhoeddwyd cau ffatri Port Talbot ym mis Awst 2013 wedi iddynt fethu gwerthu’r busnes a gwnaed 54 o weithwyr anabl yn ddi-waith.