Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Jug
Cynhyrchwyd y jwg hwn i goffau Napoleon yn ildio grym ac yn cael ei alltudio ym 1814 i ynys Elba ar arfordir yr Eidal. Wedi’i arysgrifio am y canol mae 'BONAPARTE DETHRON'D April 1st 1814' (gan roi dyddiad ychydig ynghynt er mwyn iddo lanio ar ddydd Ffŵl Ebrill). Defnyddiwyd techneg printio troslun i addurno’r jwg â golygfa fyrlymus o ddynion a menywod yn dathlu cwymp Napoleon. Saif y gŵr ei hun mewn cadwynau yng nghanol y llun, yn aros i’r Diafol ei gasglu gan ochneidio 'Oh Cursed Ambition what hast thou brought me to Now'.