Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Row locks from SEA ALARM lifeboat
The steam tug SEA ALARM which was cut up at the Welsh Industrial & Maritime Museum in the latter part of 1998 but her triple expansion engine and other components are preserved by the Industry Department of the National Museum of Wales.
Mae'r Sea Alarm yn nodweddiadol o'r nifer o dynfadau stêm a weithiai ym mhorthladdoedd De Cymru ac a deithiai yn ôl ac ymlaen ar Fôr Hafren. Yn wir, mae'r tynfadau a ddefnyddir heddiw yn ddigon tebyg yn eu hanfod, ar wahân i'r ffaith taw diesel yn hytrach na stêm sy'n eu gyrru. Mae ei simnai gul, uchel yn awgrymu ei fod yn hen fad, ond nid yw hynny'n wir oherwydd yn 1941 y cafodd ei adeiladu. Fe'i wnaed gan John Crown a'i Feibion o Sunderland ar gyfer y Weinyddiaeth Ryfel ac fe'i fedyddiwyd yn Empire Ash. Yn 1946 fe'i brynwyd gan y Clyde Shipping Company ac arhosodd ar afon Clyde dan enw newydd — y Flying Fulmar. Prynwyd y tynfad ddeng mlynedd yn ddiweddarach gan C.J. King o Fryste a'r adeg honno y cafodd ei alw'n Sea Alarm. Arhosodd ym Môr- Hafren gan gario glo yn Y Barri nes i'r Amgueddfa ei brynu pan ddaeth ei ddyddiau gwaith i ben yn 1973. Injan stêm dri-thrawiad sydd i'r tynfad. O'i chymharu â maint y tynfad ei hun mae'n ymddangos yn injan fawr, ond rhaid cofio bod gofyn i'r tynfad symud llongau oedd yn pwyso i fyny at 10,000 o dunelli gros, er nad yw'n pwyso ond rhyw 260 o dunelli gros ei hun. Erbyn hyn mae'r math hwn o injan, sy'n nodweddiadol o'r rhai a yrrai'r rhan fwyaf o longau'r byd am yn agos i hanner canrif, wedi diflannu'n gyfan gwbl. Ffynhonell: Arweinlyfr Amgueddfa Diwydiant a Môr Cymru, 1984