Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Aurora
Yn ystod ei ieuenctid yn Strasbourg, cafodd Carriére ei hyfforddi mewn lithograffeg, ac ym 1897 enillodd wobr bwysig am ei waith graffig. Yn ystod y flwyddyn honno hefyd cynhyrchodd boster o ferch yn sefyll wrth ymyl ffynnon ar fynydd mewn niwl tonnog, ar gyfer y papur newydd 'L'aurore,' a'r golygydd oedd ei gyfaill, Georges Clemenceau. Astudiaeth ragbaratoawl ar gyfer y lithograff hwnnw yw'r tirlun niwlog hwn gyda ffigrau'n croesawu'r wawr. Cafodd ei brynu gan Gwendoline Davies ym 1920.