Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Letter
letter sent to Eli Evans congratulating him on the news that his son is safe and well
Llythyr at Eli Evans yn ei longyfarch ar y newyddion bod ei fab yn ddiogel ac iach. Brodor o Gaerdydd oedd yr Is-lefftenant Arthur Wellesley Rees Evans (1898 – 1965) a ymunodd â’r Corfflu Hedfan Brenhinol ym mis Awst 1917. Diflannodd ar 21 Hydref 1918, tra’n hedfan i Köln gyda’r Lefftenant R. W. L. Thomson yn goruchwylio. Cafodd ei ddal a’i garcharu yng Ngwersyll Carcharorion Rhyfel Limburg yn yr Almaen. Derbyniodd ei dad, Eli Evans, nifer o lythyron am ei ddiflaniad. Dychwelodd Wellesley i Gaerdydd ar 10 Rhagfyr 1918.