Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Cerdyn Nadolig, 1960
Cynhyrchodd Angus McBean garden Nadolig hunanbortread i’w hanfon i ffrindiau a theulu bron bob blwyddyn o 1933 tan 1985. Mae’r cardiau’n dogfennu’r newid mewn chwaeth gyfoes ac yn ymddangosiad y ffotograffydd wrth iddo heneiddio. Maen nhw’n hynod o bersonol a ffraeth, ac yn dangos ei allu diddiwedd i arloesi’n dechnegol. Yn ei hunangofiant sydd heb ei chyhoeddi, Look Back In Angus, ysgrifenna McBean “Rydw i wedi defnyddio bron pob dyfais ffotograffig hysbys i blygu’r cyfrwng anhydrin i fy ewyllys, a sawl tro bu’n ddinoethiad niferus”. Tynnwyd y ffotograff hwn ar siwrne car i Fanceinion wrth i drwch o eira ddisgyn, gyda chymorth David Ball. Cafodd y blodau llygad y dydd addurnol, motiff poblogaidd o’r 1960au, eu hychwanegu yn ddiweddarach.