Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i hwyluso’ch defnydd. Drwy ddefnyddio’r wefan hon rydych chi’n cytuno i dderbyn cwcis dan ein Polisi Cwcis.
Lleoliadau +
Amgueddfa Cymru
English
Fy nghyfrif
Casgliadau ac Ymchwil
Adrannau Casgliadau Arlein Canolfan Gasgliadau Cenedlaethol

Teulu
Amgueddfa
Cymru

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

Amgueddfa Lechi Cymru

Amgueddfa Wlân Cymru

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

  • Casgliadau ac Ymchwil
  • Adrannau
  • Casgliadau Arlein
  • Canolfan Gasgliadau Cenedlaethol
  • Erthyglau
  • Cymru Hynafol
  • Celf
  • Celf ar y Cyd
  • Hanes
  • Hanes Naturiol
  • Yr Amgueddfa ar Waith
  • Iechyd, Lles ac Amgueddfa Cymru

Casgliadau Arlein

Amgueddfa Cymru

Chwilio Uwch

Chwilio Uwch

Image filter options
Nôl i Ganlyniadau

Copper ingot

unknown

[Disgrifiad wedi'u datblygu ar y cyd ag aelodau Chai & Chat (CGG Abertawe), Gorffennaf 2024]

Ingot o 'gopr Japan' a gasglwyd o longddrylliad llong yr East India Company, Earl of Abergavenny. Aeth y llong i drafferthion yn Weymouth yn 1805, ar y ffordd i India.

Roedd y llong yn hwylio dan drwydded yr East India Company, oedd â monopoli ar fasnach rhwng Prydain a rhannau o Asia, gan gynnwys India a Tsieina. Bu'r cwmni yn ysbeilio a threfedigaethu ar draws Bangladesh, India, Myanmar a Pacistan, gan gynyddu eu grym a'u cyfoeth. Byddai pobl gaeth o Affrica yn cael eu cludo gan y cwmni er mwyn gweithio yn eu diwydiannau.

Yng Nghymru gafodd y copr yn yr ingot hwn ei fwyndoddi – dyna'r enw ar y broses o boethi a thoddi mwyn er mwyn rhyddhau'r metel ynddo. Roedd ingot yn gynnyrch 'hanner-gorffennedig' fyddai'n cael ei allforio ledled y byd i'w droi yn wrthrychau metel gorffenedig gan grefftwr lleol. Yn India, byddai ingotau yn cael eu defnyddio i gynhyrchu offer a photiau copr neu bres. Byddai ingot o'r maint hwn yn werth tua 5c heddiw.

Cynhyrchwyd y siâp hwn gyntaf yn Japan, i'w gwerthu i India. Cafodd mwyndoddwyr Cymru eu comisiynu gan yr East India Company i greu ingotau 'copr Japan' er mwyn ateb y galw am gynnyrch yr un siâp. Roedd y cynnyrch o Gymru yn llawer rhatach, ac yn y pen draw fe gymrodd le y copr o Japan yn y farchnad yn India.

Pwnc

Diwydiant

Rhif yr Eitem

2010.2/1

Creu/Cynhyrchu

unknown
Dyddiad: 1805

Derbyniad

Donation, 28/1/2010

Mesuriadau

Meithder (mm): 150
Lled (mm): 18
Uchder (mm): 15
Pwysau (g): 224.8

Deunydd

copper

Lleoliad

National Waterfront Museum : Metals Case 17

Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod eitem yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.

Categorïau

copper (smelting) metal smelting 1800s Earl of Abergavenny (sail)

Dosbarth

wrecks and wrecking
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.

Eitemau cysylltiedig

Copper ingot from the wreck of Carn Brea Castle (1829)
Diwydiant

Copper ingot

unknown
2002.204/1
Mwy am yr eitem hon
Copper ingot from the wreck of Carn Brea Castle (1829)
Diwydiant

Copper ingot

unknown
2002.204/3
Mwy am yr eitem hon
Copper ingot from the wreck of Carn Brea Castle (1829)
Diwydiant

Copper ingot

unknown
2002.204/2
Mwy am yr eitem hon
copper ingot from wreck S.S. CITY OF DRESDEN, 1907
Diwydiant

Copper ingot

Cape Copper Company
2007.24/1
Mwy am yr eitem hon

Map o'r Wefan

Amgueddfa Cymru

Amgueddfa Cymru

  • Ymweld
  • Casgliadau ac Ymchwil
  • Dysgu
  • Blog
  • Ein Cefnogi
  • Siop
  • Llogi Cyfleusterau

Ein Hamgueddfeydd

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru
  • Amgueddfa Lechi Cymru
  • Amgueddfa Wlân Cymru
  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Ymunwch â Ni

  • Cysylltwch â ni
  • Cymryd Rhan
  • Tanysgrifio i'n Cylchlythyr
  • Facebook
  • Instagram

Corfforaethol

  • Amdanom ni
  • Swyddi
  • Swyddfa'r Wasg
  • Canolfan Casgliadau Cenedlaethol
  • Gweithio gydag eraill
  • Datganiad hygyrchedd
  • Polisi Cwcis
  • Hawlfraint
Noddir gan Lywodraeth Cymru
  • Facebook
  • Instagram
Rhif Elusen 525774
× ❮ ❯