Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Gwers 56 - Cymru
Cafodd Gwers 56-Cymru ei lunio yn y misoedd yn dilyn y refferendwm datganoli ym 1997 a bleidleisiodd dros greu Cynulliad Cymru. Mae'r gwaith yn seiliedig ar ffotograffau o lyfrau ysgol a astudiwyd gan nain Peter Finnemore yn ei hysgol yn Sir Gâr. Mae'r llyfrau, a gyhoeddwyd pan oedd yr Ymerodraeth Brydeinig ar ei hanterth, yn tanseilio ymreolaeth, iaith a diwylliant Cymru, gan adrodd hanes y genedl o safbwynt cwbl Brydeinig. Esboniodd Finnemore fod y gwaith yn cynrychioli "rôl y wladwriaeth wrth wladychu'r meddwl a'r dychymyg trwy addysg, a pharhad rhagdybiaethau ystrydebol a mytholegau di-rym".