Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Juno and the Paycock
Mae Juno and the Paycock yn ddathliad llawen o liw. Mae’r cyfansoddiad cylchol yn denu’r llygad yn barhaus yn ôl at y delweddau haniaethol afieithus. Byddai gweithiau Gillian Ayres yn cael eu henwi gan ffrindiau a theulu ar ôl cael eu cynhyrchu. Mae teitl y gwaith yma, Juno and the Paycock, yn cyfeirio at ddrama dan yr un enw gan Seán O’Casey. Mae’r gair ‘paycock’ yn sillafiad o ynganiad ‘peacock’ mewn acen Wyddelig, ac mae’r ddelwedd yn y chwith uchaf yn y print yma’n debyg i batrwm plu paun.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.