Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Dychweliad y Badau
Pan oedd yn fachgen yn Honfleur, bu Boudin yn gweithio ar ddec cwch ei dad a pharhaodd ei ddiddordeb mewn llongau. O 1853 byddai'n gweithio fwyfwy yn yr awyr agored, en plein air, ac ym 1874 cafodd ei gynnwys yn yr arddangosfa Argraffiadol gyntaf. Y peintiad hwn o gychod pysgota'n dychwelyd yw'r cyntaf mewn cyfres o weithiau a brynwyd gan Syr Frederick Wedmore gydag arian a adawyd gan James Pyke Thompson, cyfres sydd 'er o reidrwydd yn fach...eto i gyd yn gynrychiolaeth dda o rai cyfnodau mewn arlunio modern'.