Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Plate, dessert
Roedd y tirlun prydferth a grëwyd gan Thomas Johnes (1748-1816) yn yr Hafod ymhlith yr enwocaf yn y cyfnod. I goffau’r gwaith archebodd set o lestri pwdin tri deg saith darn o Derby ‘Enamd with Select Views in the Center from his Estate in Wales & fine blue & Gold Border’. Dyma’r cofnod hynaf a mwyaf cyflawn o’r Hafod ar ei newydd wedd. Archebwyd y set ym 1787 a cymerwyd naw mis i gwblhau’r gwaith. £63 oedd y gost ar y pryd, ac ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif dyma’r set ddrytaf o’i bath i gael ei chynhyrchu yn Derby. Mae’n bur debyg taw copi i gymryd lle hen un yw’r plât hwn, a wnaed cyn 1800.