Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Ni sylweddolir yn aml mai pwll dan ddaear gyda thwneli a siafftau yn union fel gwaith glo oedd y gwaith mwyn haearn yn Llanhari ym Mro Morgannwg. Defnyddid yr injan bwmpio stêm dau-silindr o dan ddaear yn Llanhari i rwystro llifogydd yn y pwll. Caeodd y gwaith yn 1976. Roedd y dŵr a ddiferai i mewn i’r gwaith hwn mor bur, o ganlyniad i ffiltro trwy greigiau, fel bod peth ohono yn cael ei ddefnyddio at ddibenion cartrefi.
Ffynhonell: Arweinlyfr Amgueddfa Diwydiant a Môr Cymru, 1984