Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Sleeve clasp
Gwnaed y clasbau llawes yma gan May Morris (1862-1938). May oedd merch ieuengaf y dylunydd William Morris (1834-1896) a'i wraig, Janey. Mae'n bennaf adnabyddus fel dylunydd a chynhyrchydd brodwaith yn arddull y mudiad Celf a Chrefft. Astudiodd yn Ysgol Ddylunio De Kensington cyn mynd ati i reoli adran frodwaith cwmni ei thad, Morris & Company. Ar droad yr ugeinfed ganrif, dechreuodd ddylunio a chynhyrchu gemwaith ac eitemau arian bach.