Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Poster
Poster ymgyrch 'Dwi eisiau bod yn un mewn miliwn'. Cynhyrchwyd gan Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
"Ma’r ‘brand’ yn bwysig. Dyna pam da ni’n cynhyrchu nwyddau. Ma nhw’n gallu bod yn ffynhonnel o incwm hefyd, ond llawer ohono fo ydi cael ein negeseuon allan. O fewn y Cymry Cymraeg ma pobl yn nabod y brand o ran y logo – y tafod – a ma hwnna di mynd yn eiconig a da ni’n falch o hynny. Ma’r gwaith lobïo da ni’n ei wneud ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar greu miliwn o siaradwyr Cymraeg. Trwy greu syniadau manwl, deddfwriaethol, da ni’n gallu rhoi pwysau ar wleidyddion i wneud y pethau iawn. A da ni dal yn trefnu protestiadau a raliau wrth gwrs – cymysgedd o bethau". Robin Farrar, Ysgrifennydd Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, 2016.