Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Gaeaf - Y Casglwyr Ffagodau
Mae'r darlun trawiadol hwn o galedi gwledig yn dangos tair menyw yn ychwelyd yn y tywyllwch o fod yn casglu coed tân. Creodd Millet sawl braslun o'r un pwnc dros y blynyddoedd. Er hynny, nid yw'n llun gorffenedig. Mae'n bosibl ei fod yn cynrychioli'r 'Gaeaf' yng nghyfres y pedwar tymor. Peintiodd Millet dros bortread o fenyw sydd i'w weld yn rhannol ar y dde.
Work was part of the AFA tour (2009-2010): From Turner to Cézanne: Masterpieces from the Davies Collection, National Museum Wales