Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Wedi'i ysgrifennu ar gefn y gwaith yma mae: "Wrth saethu ar gyfer cylchgrawn Affricanaidd yn Ne Affrica, clywais am y caffi hwn ar gyrion Johannesburg a oedd â cherddorion Affricanaidd gwych yn chwarae yno gyda'r nos. Yn fwy diddorol i mi efallai oedd y si bod pobl wynion yn mynychu, a hyn ar adeg pan oedd cynulliadau amlhiliol yn anghyfreithlon yn Ne Affrica. Roeddwn i newydd gyrraedd. Yn sefyll yn y drws yn gwylio’r olygfa, sylwais ar y cydadwaith cynnes rhwng y cwpl o Affrica o flaen y jukebox gyda dyn gwyn wrth y bwrdd y tu ôl. Weithiau mae'r eiliadau hyn yn eich dal yn amharod; yn ffodus i mi roeddwn i wedi cyrraedd gyda chamera o gwmpas fy ngwddf ac yn gallu dal y foment." — Ian Berry