Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Athlete struggling with a python
Dangosir athletwr noeth a pheithon wedi’u cloi mewn gornest dreisgar yn y cerflun bach hwn gan Frederic Leighton. Mae’n fersiwn llai o’r un maint byw a arddangoswyd yn wreiddiol yn yr Academi Frenhinol ym 1877. Roedd Leighton yn Academwr sefydledig erbyn y cyfnod hwn, ac yn ffigwr uchel ei barch ym myd celf Prydain. Serch hynny, paentiwr oedd Leighton yn bennaf, ac Athletwr yn Brwydro â Pheithon oedd ei gynnig cyntaf ar gerflun. Roedd y gwaith terfynol yn hynod ddylanwadol. Roedd yn waith a oedd yn sylfaen i fudiad o’r enw Cerflunwaith Newydd, a oedd yn drobwynt yn hanes cerflunwaith ym Mhrydain. Drwy arbrofi gyda gwahanol ddulliau a thechnegau, aeth artistiaid y mudiad â cherflunwaith i gyfeiriad newydd sbon. Yn lle defnyddio marmor, y deunydd a ffafriai’r cerflunwyr Neoglasurol, dechreuon nhw adfywio diddordeb mewn technegau castio efydd. Roedd y defnydd o efydd yn caniatáu iddyn nhw roi mwy o sylw i wead yr arwyneb a manylion naturiolaidd; ac i roi mwy o egni a dynameg yn eu cerflunwaith. Byddai osgo bywiog a throellog Athletwr Leighton wedi bod yn anodd ei gyflawni â marmor. Er i Leighton gytuno yn nes ymlaen y gellid dyblygu ei waith â marmor, roedd yn rhaid cynnwys cefnogaeth ychwanegol i ddal pwysau’r goes. Fel pwnc, mae gan y frwydr rhwng dyn a pheithon wreiddiau mewn hynafiaeth Glasurol. Byddai Leighton wedi bod yn ymwybodol o gerflun enwog Laocoön yn Rhufain, sy’n dangos tri dyn yn cael eu gwasgu gan nadroedd, wrth greu’r gwaith hwn. Ond roedd y driniaeth hon o’r pwnc yn arloesol ac yn gyffrous. Cafodd y gwaith statws eiconig ym Mhrydain yn Oes Fictoria, ac roedd mor adnabyddus fel y byddai’n cael ei ddefnyddio’n aml mewn cartwnau, hysbysebion, ac fel cyfeiriadaeth mewn gweithiau celf eraill. I rai, mae’r gwaith yn gysylltiedig â mynegiant hunaniaeth queer. Byddai darluniau o ddynion athletaidd noeth yn aml yn cael eu cysylltu â syniadau o gryfder moesegol, disgyblaeth a gwrywdod traddodiadol neu ‘syth’ yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ond edmygid y gwaith hwn yn eang mewn cylchoedd bach neu is-ddiwylliannau lle byddai tueddiadau cyfunrywiol i’w cael. Byddai ffotograffau o’r gwaith yn cael eu cyfnewid yn gyfrinachol, ac mae rhai wedi honni y gallai bod yn berchen ar gopi o’r gwaith gael ei ddeall fel cod ar gyfer hunaniaeth queer neu amgen. Does dim prawf i Leighton gael perthnasau o’r un rhyw, ond mae ei rywioldeb wedi bod yn destun dyfalu.