Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Gawen Goodman o Ruthun (1526-1604)
Dyma ddarlun o Gawen Goodman o Ruthun yn bum deg chwech oed, yn gwisgo modrwy goffa. Mae’r benglog yn ein hatgoffa o’n marwoldeb. Ymysg yr arysgrifiadau ceir y myfyrdodau Cristnogol Deum timere (ofnwch Dduw) a Iesus est amor meus (Iesu yw fy nghariad). Fe’i portreadir fel gŵr duwiol a pharchus, ond ysgrifennodd Thomas Prys y canlynol amdano, 'Os yw’n mynd i’r afael â gwinoedd rhyw dref, ni fydd yn dychwelyd adref heb faglu: wel, mi wn y gall yfed ei gyfran, os oes gwin ar gael, ni fydd yn fodlon ar lymru. Mae Gawen yn ddyn hael a duwio l-ar ôl cael gwydraid neu ddau..'