Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Quilting pattern book
Patrymau Irene Morgan. Fe’u crëwyd mewn dosbarth cwiltio yng Ngholeg Technegol Aberdâr, 1928.
Ganed Irene Morgan ym 1905 a dysgodd gwiltio yng Ngholeg Technegol Aberdâr ym 1928. Y ‘Rural Industries Bureau’ oedd yn trefnu’r dosbarthiadau fel rhan o gynllun i greu swyddi ym meysydd glo’r De. Cafodd dosbarthiadau cwiltio eu cynnal yn Aberdâr, y Porth, Merthyr Tudful, Abertridwr a Blaenau. Gwnaeth y prentisiaid ifanc gwiltiau ar gyfer pobl dosbarth canol Caerdydd a siopau drud Llundain. Y Bureau oedd yn darparu’r defnydd, yr hyfforddiant a’r cwsmeriaid.