Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Correspondence
Gohebiaeth rhwng Robert Eifion Jones (Llanuwchllyn) a Robin Gwyndaf (Amgueddfa Werin Cymru) ynghylch y planhigyn 'Dagrau Adda' (Staphylea Pinnata) - '...Bum yn dyfalu ac yn holi sut y daeth pren mor anghyffredin i glawdd gardd hen fwthyn di-nod [sef Tanrhiw ger Llanuwchllyn]. Yr ateb mwyaf boddhaol a gefais oedd; yr arfer gan hen yrrwyr (drovers) gwartheg a defaid i ddod a Thoriadau unrhyw bren neu blanhigen anghyffredin a welent ar eu teithiau i Essex a De Lloegr, a'u dwyn adref yn eu pocedi i geisio'u tyfu, a dwedir fod hon yn arfer gyffredin yn eu plith yn yr hen amser...' (1971)