Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Mae’r artist o Gatalwnia Claudí Casanovas yn teimlo cysylltiad emosiynol cryf â’r ddaear. Ble bynnag mae'n gweithio, mae'n archwilio cymeriad y clai lleol. Cynhyrchodd Ffurf Ddofn yn Japan, yn stiwdio'r artist serameg Ryoji Koie, gan ddefnyddio cymysgedd o glai Japaneaidd. Mae’r gwaith hwn yn ymgorffori ei ymateb i’r amgylchedd arbennig hwnnw a hefyd y cyfeillgarwch rhyngwladol rhwng dau artist. Mae gwaith Casanovas yn profi terfynau ffisegol ac esthetig clai. Mae'n defnyddio deunyddiau organig, metelau ac ocsidau metel i greu agoriadau a lliwiau anarferol. Mae'n torri ac yn sgwrio'r wyneb, gan roi ymddangosiad o ôl hindreulio eithafol neu brosesau daearegol pwerus.
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod eitem yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.