Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Brawd y Peintiwr, Stephen
Mae'r arlunydd yn ŵyr i Sigmund Freud a bu'n ddisgybl i Syr Cedric Morris. Teulu agos, ffrindiau a chymdeithion sydd yn ei luniau, yn hytrach na phortreadau a gomisiynwyd. Dywedodd unwaith 'Pwy arall alla' i obeithio'u portreadu gydag unrhyw ddyfnder?'. Mae'r portread hwn o'i frawd hŷn a wnaed ym 1985-86 yn dangos gweledigaeth ddofn Freud. Mae hefyd yn dangos ei ddatblygiad tuag at waith brws mwy grymus a mwy o impasto.