Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
The road to the mill
Mae melinau gwynt yn wrthrychau cyffredin yn nhirluniau Iseldiraidd yn yr ail ganrif ar bymtheg ac yn ngweithiau dyfrlliw Cox a'i gyfoeswyr megis J S Cotman. Mae'r felin yn y tirlun hwn yn ein hatgoffa o 'Ar Gomin Dulwich, Surrey', a atgynhyrchwyd fel Plât XVII yn 'Treatise on Landscape and Effect 'gan Cox a'i gyhoeddi ym 1813. Mae'r ferch mewn clogyn, y ceffyl pwn, y ci a'r ieir yn ychwanegiadau nodweddiadol yn nhirluniau Cox.