Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Gwnaed y jwg a'r ddysgl wych yma yn ninas Bruge yn Fflandrys tua 1561. William Mostyn oedd y perchennog, tirfeddiannwr ac AS o Sir y Fflint fu farw ym 1576. Roedd y jwg a'r ddysgl yn symbolau pwysig o statws fyddai'n cael eu harddangos, mwy na thebyg, mewn man amlwg ar y dreser. Mewn oes cyn cyllyll a ffyrc fodd bynnag, byddent yn cael eu defnyddio'n aml i olchi dwylo wrth y bwrdd.