Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Darlunnir Crist yn gweddïo am arweiniad yng Ngardd Gethsemane wedi'r Swper Olaf. Yn y blaen, mae'r apostolion Iago, Pedr ac Ioan yn cysgu tra bo angel yn ymddangos gyda'r groes. Ganed Cesari yn Arpino rhwng Rhufain a Napoli. Enillodd Cesari, a elwid hefyd yn Il Cavalier D'Arpino, rai o gomisiynau mwyaf anrhydeddus y cyfnod. Cafodd ei urddo'n farchog gan ei noddwr, y Pab Clement VIII, a'r hyn sy'n ei wneud yn fwyaf enwog yw'r ffaith mai ef oedd 'meistr' Caravaggio. Yn y llun hwn o'r 1590au mae'r modelu meddal a'r glasuriaeth gain yn nodweddiadol o'i arddull gynnar.
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod eitem yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.