Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Carreg er cof am deulu milwr a fagwyd yng nghysgod y gaer. Bu farw Tadius Exuperatus ar ymgyrch gyda rhan o’r lleng yn yr Almaen. Mwy na thebyg bod ei dad hefyd yn filwr.
O Pil-bach, 1km i’r gorllewin o’r gaer, cyn 1849.
D(is) M(anibus) / Tadia Vallaun[i]us vixit / ann(os) LXV et Tadius Exuper(a)tus / filius vixit ann(os) XXXVII defun(c)/tus expeditione Germanica / Tadia Exuperata filia / matri et fratri piiss(i)ma / secus tumulum / patris posuit
‘I eneidiau’r ymadawedig; Tadia Vallaunius fu fyw 65 mlynedd a Tadius Exuper(a)tus, ei mab, fu fyw 37 mlynedd, gan farw ar alldaith i’r Almaen; Tadia Exuperatus, y ferch ffyddlon a osododd hon i’w mam a’i brawd wrth feddrod ei thad.’
Enw'r Safle: Pil Bach Farm, Caerleon
Nodiadau: found near the site of two tesselated pavements at the above farm, about half a mile west of the fortress
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod eitem yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.