Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Between IX
Yn y gwaith hwn mae’r cyferbyniad o awyr goch tanbaid a thir du fel y fagddu’n creu awyrgylch annaearol. Mae’r golau gwinias yn atgoffa’r gwyliwr o’r ffwrneisi a fu unwaith yn goleuo’r nos yn oes aur ddiwydiannol y cymoedd. Mae’r gwaith yn ymdrin â’r gorffennol hwn ac yn ei gysylltu â’r dirwedd ddinesig fodern. Dyma un o naw ffotograff o’r cymoedd a gomisiynwyd ar gyfer pafiliwn Cymru yn Biennale Fenis yn 2003.
Pwnc
Rhif yr Eitem
Creu/Cynhyrchu
Derbyniad
Mesuriadau
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod eitem yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.