Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Mae'r paentiad hwn yn dangos llun o'r traeth yn Ystumllwynarth (mae'r eglwys i'w gweld yn y cefndir ar y chwith), gyda dau gwch treillio wystrys o'r Mwmbwls yn gorwedd ychydig uwchlaw llinell y penllanw. Gellir gweld gweddillion cledrau Tramffordd Ystumllwynarth, neu Reilffordd y Mwmbwls yn ddiweddarach. Yn ystod y 1850au a'r 1860au, dirywiodd y rheilffordd yn araf deg i ddim bron, cyn cael ei hailadeiladu a'i hymestyn tu hwnt i Eglwys Ystumllwynarth. Wrth ailadeiladu rheilffyrdd, yr arferiad cyffredin oedd gadael yr hen gledrau i'r naill ochr. Yma, mae'n ymddangos fod yr hen gledrau wedi'u taflu dros y wal ac ar y blaendraeth.