Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Mae Diane Arbus yn fwyaf adnabyddus am ei phortreadau o bobl ar ymylon cymdeithas; fe ddywedodd unwaith, ‘mae yna bethau na fyddai neb yn eu gweld petawn i ddim yn tynnu eu llun.’ Byddai’n aml yn gwneud ffrindiau â’i thestunau, ac yn eu hannog i fod yn gyd-gyfranwyr bodlon yn y broses o lunio portread. Mae’r ffotograffau sy’n deillio o hynny’n archwilio’r berthynas gymhleth rhwng ymddangosiad, hunaniaeth a phortread. Cynhyrchwyd y ffotograffau hyn gan yr Arts Council Collection. Yn y dyddiau cyn ffotograffiaeth ddigidol, câi copïau o ffotograffau gwreiddiol eu dosbarthu i gylchgronau a phapurau newydd i hyrwyddo arddangosfeydd.