Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Brochure
Pamffled 32 tudalen yn hyrwyddo gwaith cwmni Remploy ar draws Prydain 'Remploy: Expanding employment opportunities for disabled people'. Gwnaed y penderfyniad i gau ffatrïoedd Remploy yn 2012 gan Maria Miller, Y Gweinidog ar gyfer Pobl Anabl o fewn y Blaid Geidwadol. Ymgyrchodd gweithwyr Remploy yn erbyn y penderfyniad drwy weithredu'n ddiwydiannol am ddau ddiwrnod ar draws y DU. Cyhoeddwyd cau ffatri Port Talbot ym mis Awst 2013 wedi iddynt fethu gwerthu’r busnes a gwnaed 54 o weithwyr anabl yn ddi-waith.