Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Golch ceir, maestrefi Paris, Ffrainc
Wedi'i ysgrifennu ar gefn y gwaith yma mae: "Mewn golch ceir ym maestrefi Paris, gwelais y fenyw hon druan wedi'i chloi mewn car, gyda’r rholeri enfawr ar fin llyncu'r cerbyd. Roedd hi'n edrych yn gyfarwydd; Yn wir, dyna fy ngwraig. Allwn i fyth roi'r llun yma gyda fy ngwaith personol, oherwydd roedd yna gyswllt penodol rhyngof fi a'r goddrych. Er mwyn cynnal fy hygrededd, rhaid 'dod o hyd i'm lluniau', a doedd hynny ddim yn hollol wir yma, felly mae'r llun wedi aros yn unig ac wedi'i esgeuluso. Ond dw i'n ei hoffi beth bynnag.''' — Richard Kalvar