Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Hunan-bortread
Mor gynnar â 1789 roedd Barker wedi peintio portread dwbl ohono'i hun yn gweithio ar dirlun, a'i noddwr Charles Spackman yn edrych dros ei ysgwydd. Mae'r portread yn dyddio o tua 1800. Mae hen gopi ohono'n awgrymu bod y gwreiddiol yn ymestyn i'r dde ac yn cynnwys portread proffil o Mr Thomas Shew yn edrych ar y darlun ar îsl Barker. Mae hwn wedi ei dorri ymaith a'r olion olaf wedi eu gorchuddio â paent, ond mae llygaid y peintiwr yn dal i edrych i'w gyfeiriad ef. Roedd Thomas Shew yn byw yn Weston-super-Mare ac mae'n debyg mai ef oedd perchennog gwreiddiol y darlun hwn.