Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Carneddau Mountains from Pencerrig
JONES, Thomas (1742-1803
Thomas Jones, a pupil of Richard Wilson, came from a wealthy landowning family in Radnorshire. During his lifetime he was known as a painter of landscapes and history paintings in the style of his master, but today he is better known for his oil sketches of Italy and Wales.
Daeth Thomas Jones, oedd yn un o ddisgyblion Richard Wilson, o deulu o dirfeddiannwyr cyfoethog yn Sir Faesyfed. Yn ystod ei fywyd cafodd ei adnabod fel peintiwr tirluniau a pheintiadau hanesyddol yn null ei feistr, ond heddiw mae’n fwy adnabyddus am ei frasluniau olew o’r Eidal a Chymru)
Mae mynyddoedd y Carneddau i’r dwyrain o Bencerrig, cartref teulu Thomas Jones yn Sir Faesyfed. Maent yn nodedig oherwydd eu hamlinelliad cribog. Roedd Jones wrth ei fodd ar y dirwedd o amgylch ei gartref, ac ysgrifennodd am ‘fynyddoedd pell yn toddi i’r awyr’. O 1794-5 ymlaen cynhyrchodd Jones grŵp o saith golygfa dyfrlliw o’r Carneddau. Tynnwyd yr olygfa hon tua 1775, o islaw cartref Jones ym Mhencerrig, yn agos at glwstwr o dderi ac yn edrych i’r de-ddwyrain tuag at mynyddoedd y Carneddau. Mae’r gwaith yn y blaendir braidd yn amrwd, ond mae’r niwl ar y bryniau a’r heulwen ar y caeau ar y llaw dde wedi eu cyfleu yn fedrus ac yn llawn awyrgylch. Mae’r rhedyn fel pe bai’n crino ar y bryniau.
Pwnc
Celf
Rhif yr Eitem
NMW A 17645
Creu/Cynhyrchu
JONES, Thomas
Dyddiad: 1776 ca
Derbyniad
Bequest, 24/8/2000
Mesuriadau
Uchder
(cm): 29.5
Lled
(cm): 51
h(cm) frame:35.5
h(cm)
w(cm) frame:57
w(cm)
Techneg
oil on paper on canvas
Deunydd
oil
Paper
canvas
Lleoliad
In store
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.