Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Philip Proger (1585-1644)
Dyma’r portread cynharaf y gwyddom amdano o Gymro’n dal cenhinen. Yn llysoedd y Tuduriaid a’r Stiwartiaid, byddai’r brenin a gwŷr y llys yn gwisgo cennin ar Ddydd Gŵyl Ddewi. Mynegodd Iago I mai ‘ffasiwn dda a theilwng oedd hi i Gymry wisgo cennin ... gan fod y Cymry yn gwisgo cennin fel eu dewis Arwydd i goffáu brwydr fawr Tywysog Du Cymru’. Bu Philip Proger o Wernddu, Sir Frycheiniog, yn gwasanaethu yn Llys Iago I, ef oedd yn was llys i Iago I ac wedyn yn Wastrod y Siambr Gyfrin. Mae ei wallt hir llyfn a’i farf pigfain yn nodweddiadol o ffasiwn y Brenhinwyr.