Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Tirlun Glasurol gydag Afon
Treuliodd Thomas Jones ddwy flynedd yn hyfforddi yn stiwdio Richard Wilson, er ei fod yn cyfaddef yn ei Memoirs iddo wastraffu llawer o amser gyda 'miri a chwarae gwamal'. Mae'r tirlun bach glasurol hwn yn dangos dylanwad ei feistr yn glir. Ond, yn wahanol i lawer o olygfeydd Eidalaidd Wilson, nid yw'r darlun hwn yn dwyn Rhufain i'r cof - atgofion o Gymru sydd yn y castell, yr afon droellog a'r creigiau.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.