Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Yr Athro Jan Morris
Hanesydd ac awdur teithio oedd Jan Morris, a ddisgrifir fel 'Flaubert oes y jet'. Fe’i ganed fel James Morris, a chafodd lawdriniaeth cadarnhau rhywedd yn 1972. Mae'n bosib mai ei disgrifiad didwyll a theimladwy o ddarganfod ei gwir hunaniaeth fel menyw, a cheisio mynd ar ôl hynny, Conundrum (1972), yw'r llyfr mwyaf dylanwadol o'i fath. Fel newyddiadurwr, Morris oedd y cyntaf i adrodd am esgyniad Mynydd Everest ym 1953. Mae ei phortreadau atmosfferig o ddinasoedd, sy'n cynnwys Fenis, Rhydychen ac Efrog Newydd, yn cael eu dathlu'n eang, fel y mae ei thair cyfrol am hanes yr Ymerodraeth Brydeinig, Pax Britannica.
Delwedd: © David Hurn / Magnum Photos / Amgueddfa Cymru
Ar gyfer unrhyw ymholiadau ynghylch trwyddedu ac atgynhyrchu'r ddelwedd hon, cysylltwch â Magnum Photos: licensingall@magnumphotos.com
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.