Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Fabric
Ym 1940 y creodd Graham Sutherland y dyluniad hwn, ‘Rhosyn Sutherland’. Fe’i prynwyd gan Helios Ltd o Bolton o arddangosfa o ddyluniadau gan artistiaid a gynhaliwyd yng Nghanolfan Steil Lliw a Dylunio newydd y Bwrdd Cotwm a agorwyd ym Manceinion yr un flwyddyn. Ym 1946 cynhyrchodd Helios ffabrig dodrefnu yn defnyddio’r dyluniad. Fisgos wedi’i sgrinbrintio yw’r tecstil, a dyluniwyd y gwehyddiad gan Marianne Straub, prif Ddylunydd Helios.