Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Ganed James Charles yn Warrington, yn fab i'r dylunydd a gwneuthurwr dodrefn o Gymru, Richard Charles. Ym 1872 ymunodd ag Ysgolion yr Academi Frenhinol cyn mynd yn ei flaen i astudio ym Mharis. Yno cafod ei ddenu at Argraffiadaeth, ac yn arbennig y mudiad 'plein-air'. Wedi dychwelyd i Brydain, bu'n arddangos yn gyson, a chafodd beth llwyddiant dramor, gan ennill medalau yn 'Exposition Universelle' Paris ym 1889, a Ffair y Byd yn Chicago ym 1893. Mae'r gwaith hwn, a ddangoswyd yn yr 'Exhibition of Works by Certain Modern Artists of Welsh Birth or Extraction' yng Nghaerdydd ym 1913-14, yn cynrychioli'r Argraffiadaeth Brydeinig gymharol flaengar a gysylltir â'r New English Art Club rhwng y 1890au a'r Rhyfel Byd Cyntaf.