Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Morffews
JOHN, Sir William Goscombe (1860-1952)
Cafodd y ffigwr hwn ei fodelu ym Mharis pan oedd y cerflunydd yn fyfyriwr yno ar ôl ennill Medal Aur yr Academi Frenhinol ym 1889. Byddai Goscombe John yn ymweld yn aml â stiwdio Rodin, ac mae osgo'r ffigwr hwn yn ein hatgoffa o Oes Efydd Rodin. Yn yr Academi Frenhinol ym 1891 cafodd ei arddangos gyda'r geiriau barddonllyd 'Drown'd in drowsy sleep of nothing he takes his keep'.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.