Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
View from a Hill, Sannois, Seine-et-Oise
Maestref yng ngogledd-orllewin Paris yw Sannois, ar darren o fryniau o'r enw Les Buttes du Parisis sy'n codi o'r gwastatir eang lle mae Afon Seine yn gwau. O'r eisteddle hwn mae braslun bychan Delance yn edrych i'r pellter. Mae'r artist wedi llwyddo'n gelfydd i wasgu dyfnder gwych yr olygfa dri dimensiwn i ddau ddimensiwn y paentiad, mwy na thebyg yn yr awyr agored. Llinellau fertigol y boncyffion tenau sy'n rhoi strwythur i'r ddelwedd, a'u lleoliad gofalus yn arwain y llygad o'r cysgod, i lawr y llethr, a thrwy haenau'r tirlun i'r gorwel pell. Mae brwswaith Delance yn llawn mynegiant, ac mor rhydd nes bod sawl darn o'r panel heb lyfiad o baent. Gyda'i arsylwi manwl o liw a golau, gallai ei dechneg gael ei ddisgrifio fel un argraffiadol. Yn wir, mae Sannois ychydig gilometrau o dref Argenteuil ar lannau'r Seine a ddaeth yn enwog fel cyrchfan i artistiaid argraffiadol ddechrau'r 1870au. Mwy na thebyg taw astudiaeth frysiog oedd hon, nid gwaith gorffenedig. Ar y pryd roedd Paul Delance yn fwyaf enwog am ei baentiadau Salon naratif, oedd yn llawer mwy academaidd a chaboledig. Credir bod y rhan fwyaf o dirluniau Delance wedi'u creu ar ôl marw ei wraig, Julie Delance-Feurgard (1859-1892) – cyn ddisgybl iddo ac artist medrus ei hun. Cafodd y golled effaith ddofn arno, gan arwain o bosib at y gweithiau mwy personol hyn. Roedd y gwaith yn rhan o gasgliad o astudiaethau tirlun a welwyd mewn arddangosfa gan Walter Sickert a Paul Delance yn oriel y gwerthwyr Roland, Browse & Delbanco yn Llundain ym 1957. Yn y catalog gwelwn ei bod yn eiddo i ferch yr artist, Alice (1888-1973), oedd yn bedair pan fu farw ei mam. Mae'r gwaith hwn yn un o ddau a brynwyd gan Daphne Llewellin o Frynbuga, a'u gadawodd i'r Amgueddfa mewn cymynrodd. Y gwaith arall oedd Traeth gyda Ffigurau Eisteddog (La Côte Déserte) .