Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Cyflwyniad i'r Ymerawdwr Trajan
Mae'n bosib y byddai'r arysgrif hwn, a godwyd yn OC 100, i'w weld uwchlaw porth y de-orllewin. Anfonwyd y darn marmor Luna o'r Eidal, mwy na thebyg wedi'i gerfio ymlaen llaw, ac erbyn iddo gyrraedd roedd yn rhaid newid rhifolyn y conswl o II i III.
Imp(eratori) Caes(ari) divi [Nervae f (ilio) ] Nervae Traia[no Aug(usto)] Ger(manico) pontif(ici) maximo [trib(unicia)] potest(ate) p(atri) p(atriae) co(n)s(uli) III Leg(io) II Aug(usta)
‘I'r Ymerawdwr Cesar Nerva Trajan Awgwstws, Concwerwr yr Almaen, mab y dwyfol Nerva, archoffeiriad, awdurdod tribiwnaidd, tad ei wlad, conswl am y trydydd tro, y mae'r Ail Leng Awgwstaidd (yn cyflwyno hyn)’
Enw'r Safle: School Field, Caerleon
Nodiadau: the stone had been reused as a paving stone in room 5 of building XV
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod eitem yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.