Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Mrs Smith
Ar ôl bod yn y rhyfel, cafodd yr arlunydd ei hyforddi yn Ysgol y Slade ym 1919-22 ac ymunodd â'r Coleg Brenhinol fel Athro Peintio ym 1923. Ym 1930-59 bu'n dysgu yn y Slade. Mae'r portread gwrthrychol hwn gyda'i ddylunio clir, cynildeb ei wead a'i liw tawel yn nodweddiadol o'r arddull beintio a gai ei meithrin gan y Slade. Y ddynes a fyddai'n glanhau i fam Gwynne-Jones oedd Mrs Smith. Dengys y fframiau darluniau, y brwsys ac offer arall yr arlunydd yn y cefndir ei bod yn sefyll yn ei stiwdio.