Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Answer book
Llyfr Ateb Amgeuddfa Werin Cymru, 1958, yn cynnwys nodiadau yn y Gymraeg gan John Williams Jones yn wreiddiol o Geio, Sir Gaerfyrddin ond yn son am ardal ei gartref yng nghyfnod yr holiadur sef Cellan, Llanbedr Pont Steffan tua 1914 ac atgofion o bobl yr ardal cyn 1914. Mae'r nodiadau hefyd yn olrhain hanes lladd tywarch (sef torri mawn) ym mhlwyf Cellan. Anfonwyd Llyfrau Ateb gan Amgueddfa Werin Cymru ym 1958 at unigolion ar draws Cymru er mwyn casglu a chofnodi gwybodaeth am agweddau o ddiwylliant gwerin yn eu hardaloedd yn cynnwys amaeth, crefftau, bwyd, arferion a thafodiaith. Mae’r ymatebion wedi eu hysgrifennu â llaw yn y llyfrau. Roedd y Llyfrau Ateb yn ddilyniant i’r holiaduron a anfonwyd ym 1937.