Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Vertical single cylinder table engine
Injan-fwrdd o felin lif Bagdy Llangatwg, Castell-nedd. Injan un-silindr wedi ei gosod ar fwrdd ydyw ac fe’i gwnaed rywbryd rhwng 1825 a 1835 gan Gwmni Haearn Abaty Nedd. Mae’r injan yn arddangos safon uchel gwaith cynnar y cwmni a enillodd enw da iddo’i hun trwy Brydain. Gwnaeth y cwmni drenau rheilffrydd, llangau haearn ac amrywiaeth fawr o gynhyrchion injan eraill. Pan ddyfeisiwyd yr injan fwrdd yr unig symudydd sylfaenol arall mewn bodolaeth oedd yr injan drawst. Yn wahanol i’r injan drawst roedd yr injan fwrdd yn gludadwy, yn fach, yn dwt ac yn hawdd i’w symud, ac yn aml roedd yn cyfateb i’r motor trydan modern. (Ffynhonell: Arweinlyfr Amgueddfa Diwydiant a Môr Cymru, 1984).