Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Love Parry III (1720-1778)
Love Parry III oedd wyr yr eglwyswr a'r pregethwr mawr, 'Love-God' Parry (1654-1707) a mab Love Parry (1696-1778). Ef ddaeth â'r tŷ ym Madryn i'r teulu trwy briodi Sidney Hughes a ddeuai o deulu cyfoethog o Fiwmares. Cawsant fab, Love arall, ond bu farw yn ei blentyndod ac aeth stad Madryn i'w merch, Margaret, a briododd ei chefnder Thomas Parry Jones-Parry.
Dangosir Love Parry III yma fel bachgen ifanc gyda hebog. Mae'r arysgrif yn datgelu ei fod yn 11 oed pan beintiwyd y llun ar Awst 3 1731. Nid yw'r arlunydd yn hysbys ond mae'n amlwg ei fod yn arlunydd adar medrus. Mae'r bachgen yn gwisgo dillad sy'n ymddangos yn hen ffasiwn i'r cyfnod, gan atgoffa rhywun o ddiwedd yr 1690au.