Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Cilewent farmhouse
When originally built as the resting-place (cil) of Ewent, this house would have looked like Hendre'r ywydd uchaf. In 1734, however, its timber walls were rebuilt in stone and all that remains of the oringal house are the two cruck trusses in the cow-house. This type of farmhouse, with the cattle at one end and their owners at the other, with a door between them, is known as a long house and was once common in mid and south Wales. This building contains a stable, and room for twelve cattle with a hay-loft above them.
Tŷ ffrâm nenffyrch a phren a godwyd fel neuadd agored tua 1470. Cafodd y waliau coed gwreiddiol eu hailgodi mewn carreg ym 1734 ac fe gerfiwyd y dyddiad ar ffrâm y drws allanol. Y cyfan sydd ar ôl o'r tŷ gwreiddiol yw'r ddwy nenfforch yn y beudy a phalis ffrâm bren rhwng y beudy a'r tŷ. 'Tŷ hir' yw hwn. Byddai'r gwartheg yn byw yn un pen a'r teulu yn y pen arall a byddai cyntedd cyffredin rhwng y ddwy ran. Roedd y math hwn o ffermdy yn gyffredin yn ne a chanolbarth Cymru ar un adeg. Yn ogystal â deuddeg o wartheg, roedd lle yno i gadw ceffylau a thaflod uwchben i gadw gwair. Mae'r dodrefn yn perthyn i tua 1750. Roedd cist â chlawr arch fel sydd yn y cyntedd yn gyffredin mewn ffermdai yng Nghymru. Blawd ceirch oedd yn cael ei gadw yn hon. Roedd y caead wedi'i gynllunio fel y gellid ei droi â'i ben i waered a'i ddefnyddio i gario'r cynnwys. Mae'r ffaith fod llaethdy ger y brif gegin yn dangos bod gwneud menyn a chaws yn ffynhonnell incwm bwysig i'r ffarmwr yn y cyfnod hwn. Ymhlith offer y llaethdy mae gwasg gaws drawiadol o dderw y llwyddwyd, yn glyfar iawn, i'w gwneud i edrych fel darn o ddodrefn y tŷ. Yn y brif ystafell fyw mae cwpwrdd tridarn derw tywyll o'r canolbarth. Ceir arno'r dyddiad 1726 a chredir mai dyna pryd yr ychwanegwyd y darn uchaf at gwpwrdd deuddarn hŷn. Mae hyn yn enghraifft dda o'r ffordd yr oedd dodrefn yn cael eu haddasu at ddibenion y perchennog neu at ffasiwn y cyfnod cyn dyddiau masgynhyrchu.