Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
The Honourable George Canning (1770-1827)
Roedd George Canning (1770-1827) yn Ysgrifenydd Tramor ym 1807-8 a 1822-7 ac yn Brif Weinidog ym 1827. Roedd ei Geidwadaeth ryddfrydol yn golygu ei fod yn A.S. poblogaidd iawn dros Lerpwl, lle comisiynwyd y penddelw hwn am £126 gan edmygydd, y Cyrnol Bolton. Cafodd ei arddangos yn yr Academi Frenhinol ym 1819. Chantrey oedd prif bortreadydd ei ddydd, ac ymhlith ei eisteddwyr roedd Siôr IV, Walter Scott a'r Arglwydd Castlereagh.