Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Study for illustration to poems by David Gascoyne
SUTHERLAND, Graham Vivian (1903-1980)
Cyhoeddwyd cyfrol o gerddi gan David Gascoyne o’r enw ‘Poems 1937-1942’ ym mis Rhagfyr 1943 gan gylchgrawn ‘Poetry London’ a sefydlwyd gan Tambimuttu. Awgrymodd Herbert Read y dylai Graham Sutherland wneud y darluniau ar gyfer y gyfrol ac roedd Gascoyne, a Peter Watson, yn hoffi’r syniad. Aeth Sutherland ati i greu cyfres o 18 llun oedd yn seiliedig yn fras ar benillion Gascoyne – defnyddiwyd 7 yn y gyfrol gyhoeddedig. Gadawyd y gweithiau gan yr artist i’r Oriel Graham Sutherland gyntaf yng Nghastell Picton, 1976.
Works bequeathed by the artist to the first Graham Sutherland Gallery at Picton Castle, 1976
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.