Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Crist y Prynwr
Hanai Granacci o Fflorens ac roedd yn ddisgybl i Ghirlandaio ac yn gyfaill i Michelangelo. Mae'n debyg fod y gwaith hwn a thri phanel bach arall yn Rhydychen yn addurno ochrau darn allor ar un adeg tua 1520. Gwelir gwaed Crist yn arllwys i mewn i gwpan cymun ar ran y ddynol ryw. Prynwyd y panel gan y Parchedig John Sandford, ac oherwydd y testun cafodd ei ail-ddefnyddio fel drws y tabernacl marmor o Fflorens a roes yn eglwys y plwyf Nynehead ym 1833 (Rhif derbynodi: NMW A 236).