Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Y Goedwig
Yr oedd ar Ernst arswyd awyrgylch coedydd a'r adar ynddynt. Yma mae effaith croes-ymgroes y coed a'r awyr ddarniog yn dangos ei dechneg 'grattage.' Byddai haenau o baent yn cael eu gosod ar y cynfas a hwnnw'n cael ei wasgu yn erbyn sitenni o fetel wedi eu stampio â phren garw, ac yna'i grafu. Ganed Ernst ger Cologne a bu'n astudio athroniaeth cyn dod yn brif arlunydd Swrealaidd Paris. Rhoddwyd y gwaith hwn i'r Gymdeithas Celfyddyd Gyfoes gan Miss A.F Brown ym 1940.